Neidio i'r prif gynnwy

Ap Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd

A oes arnoch chi eisiau gwybod mwy am y bwydydd sydd orau i chi a’ch babi yn ystod beichiogrwydd a thu hwnt?

A ydych chi’n ansicr ynghylch ble i gael cyngor a chymorth am fwyta’n dda a bod yn egnïol yn ystod beichiogrwydd y gallwch chi wir ymddiried ynddynt?

A hoffech chi gael mynediad cyflym a hwylus at yr wybodaeth hon – y cyfan mewn un lle trwy wasgu botwm?

Mae’r ap newydd hwn, sydd am ddim ac a ddatblygwyd gan weithwyr proffesiynol GIG Cymru, wedi’i ddylunio i ddarparu hyn i gyd, a mwy. Mae’n dod â chyngor ynghylch maeth, gweithgarwch corfforol a phwysau iach ynghyd i’ch cefnogi ar hyd eich taith beichiogrwydd.

Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho am ddim o Google Play neu Apple Store.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: