Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn y pas

Argymhellir y brechlyn pâs bob tro y byddwch yn feichiog, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn o’r blaen.

Mae brechlyn y pas (Boostrix-IPV) yn ddiogel iawn ac argymhellir ei roi o 16 wythnos hyd at 32 wythnos o feichiogrwydd. Mae hyn yn rhoi'r cyfle gorau i'ch babi gael ei amddiffyn rhag cael ei eni, gan y byddwch wedi trosglwyddo'ch gwrthgyrff iddo cyn iddo gael ei eni.   

Gall y pâs fod yn haint difrifol iawn, yn enwedig i fabanod ifanc. Gall arwain at niwmonia a hyd yn oed farwolaeth. Mae cael y brechlyn yn ystod beichiogrwydd yn helpu i amddiffyn eich babi yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd.

Yn y DU, mae astudiaethau cyhoeddedig wedi dangos bod y brechlyn dros 90% yn effeithiol o ran amddiffyn eich babi rhag y pas nes ei fod wedi cael ei frechu yn ddau fis.

Am fwy o wybodaeth am brechiad y pâs (pertwsis) yn ystod beichiogrwydd yma (yn agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: