Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn ffliw

Mae tystiolaeth dda bod menywod beichiog/pobl sy’n geni yn fwy tebygol o ddatblygu cymhlethdodau os ydynt yn cael y ffliw, yn enwedig yng nghamau olaf beichiogrwydd. Un o gymhlethdodau mwyaf cyffredin y ffliw yw broncitis – haint ar y frest a all ddod yn ddifrifol a datblygu’n niwmonia.

Os oes gennych chi'r ffliw tra'ch bod chi'n feichiog, fe allai achosi i'ch babi gael ei eni'n gynamserol neu fod â phwysau geni isel a gallai hyd yn oed arwain at farw-enedigaeth. Gall ffliw fod yn ddifrifol iawn i fabanod. Pan fyddwch chi'n cael brechlyn ffliw tra'n feichiog, mae'n parhau i helpu i amddiffyn eich babi am hyd at chwe mis ar ôl iddo gael ei eni.

Gallwch gael y brechlyn ffliw unrhyw bryd yn ystod eich beichiogrwydd. Argymhellir y brechlyn ffliw bob tro y byddwch yn feichiog, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn o’r blaen. Mae cael eich brechu bob tymor ffliw yn eich amddiffyn rhag mathau newydd o’r feirws ac yn lleihau’r risg o ledaenu’r ffliw i’ch babi. 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: