Neidio i'r prif gynnwy

Brechlynnau eraill i'w trafod gyda'ch bydwraig

Mae brechlynnau eraill y gallech fod am eu trafod gyda'ch bydwraig. Mae'r rhain yn cynnwys hepatitis B a BCG sy'n helpu i amddiffyn rhag TB (twbercwlosis). Argymhellir y brechlynnau hyn ar gyfer rhai babanod yn fuan ar ôl genedigaeth. 

Efallai y cewch gynnig y brechlyn MMR (sy'n amddiffyn rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela) yn fuan ar ôl i chi gael eich babi os nad ydych wedi cael dau ddos o'r brechlyn hwn o'r blaen. Os nad ydych yn siŵr a ydych wedi cael dau ddos, holwch eich meddyg teulu. 

Mae MMR yn frechlyn byw felly ni chaiff ei roi yn ystod beichiogrwydd. Gallwch gael y brechlyn MMR hyd at fis cyn beichiogi, neu gallwch gael y brechiad ar ôl i'ch babi gael ei eni. 

Pan gaiff eich babi ei eni fe'ch gwahoddir i ddod ag ef ar gyfer ei frechiadau arferol, fel arfer yn eich meddygfa neu glinig babanod. Bydd eich bydwraig neu ymwelydd iechyd yn gallu dweud wrthych am y rhain. 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: