Neidio i'r prif gynnwy

A oes gan y brechlynnau hyn sgîl-effeithiau?

Mae'r brechlynnau hyn yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd. Mae brechlynnau ffliw a’r pâs wedi’u rhoi’n ddiogel i fenywod beichiog/pobl sy’n geni ers blynyddoedd lawer, ac mae mwy na 200,000 o fenywod beichiog/pobl sy’n geni bellach wedi cael brechlynnau COVID-19 heb unrhyw bryderon diogelwch. 

Fodd bynnag, fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgîl-effeithiau. Mae hyn oherwydd eu bod yn gweithio trwy sbarduno ymateb yn eich system imiwnedd. Mae'r rhan fwyaf o'r sgîl-effeithiau hyn yn ysgafn ac yn para ychydig ddyddiau yn unig, ac nid yw pawb yn eu cael. 

Y sgil-effaith mwyaf cyffredin yw braich ddolurus lle cawsoch y pigiad. Mae sgîl-effeithiau eraill yn cynnwys twymyn, teimlo'n flinedig, poenau cyffredinol, oerfel neu symptomau tebyg i ffliw, chwyddo yn y fraich y cawsoch y brechiad ynddi, colli archwaeth bwyd, anniddigrwydd, a chur pen. Mae sgîl-effeithiau difrifol yn brin iawn. 

Mae'r symptomau hyn fel arfer yn para llai nag wythnos. Os yw'n ymddangos bod eich symptomau'n gwaethygu neu os ydych yn bryderus, ffoniwch GIG 111. Os cewch gyngor gan feddyg neu fydwraig, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthynt am eich brechiadau fel y gallant eich asesu'n iawn. 

Gallwch hefyd roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy chwilio cynllun Cerdyn Melyn, drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9.00am - 5.00pm). 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: