Neidio i'r prif gynnwy

Pryderon yn ystod beichiogrwydd

Gall pryderon yn ystod beichiogrwydd fod yn ofidus, ond mae yna wasanaethau i helpu. Os nad ydych wedi mynd y tu hwnt i 20 wythnos o feichiogrwydd, ffoniwch eich bydwraig gymunedol, neu'r uned beichiogrwydd cynnar. Os ydych wedi mynd y tu hwnt i 20 o feichiogrwydd a bod gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â naill ai eich bydwraig gymunedol, neu'r gwasanaeth brysbennu mamolaeth ar gyfer eich ardal.

Os ydych yn profi unrhyw un o'r canlynol:  

  • smotio neu waedu;
  • chwydu cyson;
  • hylif yn gollwng;
  • poen wrth basio dŵr;
  • cur pen parhaus, difrifol;
  • chwyddo yn yr wyneb, y dwylo, neu'r coesau;
  • cyfangiadau neu grampiau;
  • cosi, yn enwedig ar y dwylo neu'r traed;
  • poen sydyn neu barhaus yn yr abdomen;
  • poen yn y pelfis;
  • golwg aneglur, gweld smotiau;
  • symudiadau'r babi yn arafu neu'r patrwm yn newid;
  • tymheredd uchel;

neu os oes gennych unrhyw bryderon eraill amdanoch chi neu eich babi, ffoniwch eich bydwraig gymunedol neu'r rhif brysbennu ar flaen eich nodiadau. Mae'r gwasanaeth brysbennu yn agored 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: