Os ydych rhwng chwech - 13 wythnos a chwe diwrnod o feichiogrwydd ac wedi cael prawf beichiogrwydd positif, ac y mae'r canlynol gennych, neu rydych yn eu profi neu wedi eu cael/profi yn y gorffennol:
yna ffoniwch yr Uned Asesu Beichiogrwydd Cynnar (EPAU) ar 01267 227 159, a bydd eich galwad yn cael ei brysbennu o ddydd Llun i ddydd Gwener 08:00am - 4:00pm.
Dim ond yn ystod yr oriau hyn y dylech ffonio. Os ydych yn profi'r canlynol y tu allan i oriau:
Gwaedu trwm (yn newid dau i dri pad yr awr a'r rheiny'n wlyb socian), neu'n pasio clot maint hanner dwrn, neu â phoen nad yw'n diflannu gyda paracetamol:
yna ewch i'ch adran damweiniau ac achosion brys agosaf.