Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau cymorth integredig i deuluoedd

Yr hyn a wnawn

Mae'r Gwasanaeth Cymorth Integredig i Deuluoedd yn fenter gan Lywodraeth Cymru er mwyn darparu cymorth i deuluoedd y mae eu bywydau yn cael eu heffeithio gan arferion camddefnyddio alcohol neu gyffuriau rhieni.

Darparir y Gwasanaeth yn lleol gan dimau amlddisgyblaethol ac aml-asiantaeth, y byddant yn darparu ymyriadau ar sail tystiolaeth am amser cyfyngedig, ac y mae modd iddynt ymateb i anghenion y teulu cyfan.  Yn Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, ceir 4 Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd, wedi'u lleoli yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Mae pob Tîm Integredig Cymorth i deuluoedd yn dwyn ynghyd weithwyr proffesiynol medrus iawn, o ofal cymdeithasol a gofal iechyd, sydd â phrofiad arbenigol i weithio'n uniongyrchol gyda'r teuluoedd a atgyfeiriwyd. Cydnabyddir bod rhai teuluoedd yn aml yn wynebu sawl anfantais sy'n gofyn am gefnogaeth arbenigol a dwys iawn. Gall y Timau Cymorth Integredig i Deuluoedd gynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, ymwelwyr iechyd, ac arbenigwyr ymyrraeth iechyd / gofal cymdeithasol, a rheolir y Tîm gan arweinydd tîm / gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol.

Y sawl y byddwn yn gweithio gyda nhw

Mae'r Tîm Cymorth Integredig i Deuluoedd yn gweithio gyda theuluoedd y mae camddefnyddio sylweddau rhieni yn effeithio arnynt lle mae pryderon ynghylch gofal a lles eu plant.

Mae'r timau hefyd yn gweithio gyda gwasanaethau ac asiantaethau cymorth teulu eraill i gynorthwyo rhieni i barhau i wneud newidiadau cadarnhaol sy'n amddiffyn plant sy'n agored i niwed er budd y teulu.

Cysylltwch â'ch tîm IFSS lleol.

Sir Gaerfyrddin

Ewch i wasanaeth Cymorth Integredig i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin yma (yn agor mewn dolen newydd)

Ceredigion

Ewch i Gamddefnyddio Sylweddau Ceredigion yng Nghyngor Sir Ceredigion yma (agor mewn dolen newydd)

Sir Benfro

Ewch i'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd yng Nghyngor Sir Penfro yma (yn agor mewn dolen newydd)

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: