Rydym am eich helpu i wneud penderfyniadau ynghylch pryd y gallai fod angen gofal iechyd arnoch ar gyfer plentyn neu berson ifanc o dan 16 oed.
Yng ngwanwyn 2020, oherwydd pandemig COVID-19, bu’n rhaid i ni symud yr uned plant yn ystod y dydd (Uned Gofal Ambiwladol Pediatreg) a’i staff arbenigol yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.
Mae'r mesur dros dro hwn yn golygu bod angen gweld plant â salwch neu anafiadau difrifol yn Ysbyty Glangwili, sydd ag Adran Achosion Brys wedi'u cydleoli a gwasanaethau ysbyty plant. Dim ond plant â mân anafiadau (fel ysigiadau, toriadau, neu fân losgiadau) neu apwyntiadau cleifion allanol wedi'u bwcio y gall Ysbyty Llwynhelyg eu trin.
Sylwch fod y newidiadau hyn yn effeithio ar wasanaethau plant yn Ysbyty Llwynhelyg yn unig ac mae gwasanaethau oedolion yn yr ysbyty yn aros yr un fath. Mae gwasanaethau pediatreg yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn aros yr un fath. Nid oes unrhyw newid i Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli.
Efallai y bydd mwy o blant, yn enwedig plant bach sy’n agored i niwed, yn mynd yn sâl o firysau anadlol yr hydref hwn (2021) oherwydd ein bod yn cymysgu mwy. Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i gael gafael ar y gofal cywir cyn gynted â phosibl pan fo angen.
- Ffoniwch 999 os oes gan eich plentyn anafiadau difrifol neu salwch sy'n peryglu ei fywyd, gan gynnwys trafferthion anadlu difrifol neu anadlu afreolaidd, mynd yn las o amgylch y gwefusau, yn welw ac yn oer iawn, os yn cael ffit neu drawiad, yn llawn trallod, yn gysglyd iawn neu'n anymatebol, yn datblygu brech nad yw'n diflannu gyda phwysau, neu sydd â phoen yn y ceilliau.
- Ewch i Uned Mân Anafiadau (24/7 yn Ysbyty Llwynhelyg; o ddydd Llun i ddydd Gwner yn ystod y dydd yn unig yn Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Gofal Integredig Aberteifi) os oes gan eich plentyn fân glwyfau, mân losgiadau neu sgaldiadau, brathiadau pryfed, esgyrn wedi torri o bosib os nad ydyn nhw wedi'u cam-lunio'n wael, mân anafiadau wyneb, neu ddarn estron yn y trwyn neu'r glust.
- Cysylltwch â'ch meddyg teulu heddiw os oes gan eich plentyn salwch nad yw’n diflannu, a ddynodir gan dymheredd uchel, crynu, poen yn y cyhyrau, peswch, gwichian, mwy o ymdrech i anadlu, chwydu parhaus / dolur rhydd / poen bol difrifol, gwaed yn ei ysgarthion neu wrin neu ddadhydradiad.
- Ffoniwch GIG 111 Cymru (24/7) i gael cyngor brys os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud. Ffoniwch 111 i gael cymorth brys pan fydd eich meddygfa arferol, neu wasanaeth gofal sylfaenol arall ar gau. Efallai y gofynnir ichi fynd â'ch plentyn i Adran Achosion Brys Ysbyty Glangwili os oes angen mewnbwn gan feddygon plant arbenigol.
- Trin gartref neu gysylltu â'ch fferyllydd os oes gan eich plentyn fân salwch neu anhwylder fel dolur gwddf, peswch, croen coslyd, neu os oes angen atal cenhedlu brys ar berson ifanc. Gallwch gael help ar-lein trwy chwilio ‘Gwiriwr Symptomau 111 GIG Cymru’. Mae rhai fferyllfeydd yn cynnig triniaeth heb apwyntiad ar gyfer anafiadau lefel isel.
- Os ydych chi'n fyddar neu â nam ar eich lleferydd gallwch gyrchu gwasanaethau 999 gan ddefnyddio ap Relay UK a deialu 999, neu GIG 111 trwy ddeialu 18001 111.
Gwybodaeth Ddefnyddiol
I gael mwy o wybodaeth am gymorth trafnidiaeth heblaw argyfwng, os na allwch deithio am resymau meddygol, neu os ydych yn gymwys i gael help gyda chostau cliciwch yma (agor mewn dolen newydd)
Gall un rhiant / gofalwr aros gyda phlentyn sy'n cael ei dderbyn i'r ysbyty. Lle mae angen, gallwch ofyn i Brif Nyrs y ward am gefnogaeth gyda llety, ac os ydych chi'n cael anhawster dychwelyd adref.
Os oes gennych brofiad o wasanaethau plant yr ydych am eu rhannu â ni, chwiliwch ein gwefan am ‘arolwg cleifion’ neu ‘cwynion’, e-bostiwch ni yn hdhb.patientsupportservices@wales.nhs.uk neu ffoniwch 0300 0200 159
Byddwn yn ymgysylltu â'n cymunedau ynghylch dyfodol gwasanaethau plant yn 2022, ond os ydych chi am rannu eich barn ar y pwynt hwn e-bostiwch: hyweldda.Engagement@wales.nhs.uk; ysgrifennwch at: RHADBOST BWRDD IECHYD PRIFYSGOL HYWEL DDA (ni fyddwch angen stamp); ffoniwch: 01554 899 056 (nid yw'r rhif ffôn hwn wedi'i staffio, ond bydd negeseuon yn cael eu recordio).