Rydym yn darparu gofal diogel o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc sy'n bodloni safonau meddygol a ddisgwylir yn y GIG.
Mae ein meddygon arbenigol, nyrsys a thimau gofal iechyd ehangach yn cefnogi ac yn gofalu am fabanod, plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys profion i wybod beth sydd o'i le a thriniaeth. Darperir hwn mewn ysbytai ac yn y gymuned neu yn eich cartref eich hun. Mae triniaeth, diogelwch a chysur eich plentyn yn bwysig iawn i ni. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud eu hymweliad neu aros mor ddymunol â phosibl.
Os yw'ch plentyn yn ddifrifol wael neu wedi'i anafu'n ddifrifol, ffoniwch 999.
Ar gyfer salwch nad yw mor ddifrifol, defnyddiwch y GIG Cymru – gwiriwr (agor mewn dolen newydd) symptomau neu wneud apwyntiad gyda'ch meddyg teulu. Ffoniwch Galw Iechyd Cymru 111 os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud.
Gellir gweld plant â mân anafiadau (fel ysigiadau, briwiau neu fân losgiadau) mewn unedau mân anafiadau neu mewn rhai fferyllfeydd cymunedol.
Efallai y gofynnir i chi fynd â phlentyn sâl i’ch Adran Achosion Brys agosaf gydag arbenigwyr plant ar y safle. Yn ein hardal ni, mae hyn yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Adborth ar wasanaethau plant. Mae casglu sylwadau a meddyliau yn bwysig iawn i'n helpu ni i ddarparu gwasanaeth o'r ansawdd gorau i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd. Cwblhewch un o'n harolygon i roi adborth ar eich profiad (agor mewn dolen newydd).