Neidio i'r prif gynnwy

Cyfathrebu â chi

Byddwn bob amser yn cyfathrebu â chi mewn ffordd sy’n diwallu eich anghenion unigol, eich anghenion ieithyddol a’ch anghenion cyfathrebu.

 

Beth mae hyn yn ei olygu i chi?

  • Bydd ein staff yn cyfathrebu yn y ffordd sydd orau gennych neu sydd ei hangen arnoch;
  • Unwaith y byddwn yn ymwybodol o'ch anghenion cyfathrebu ac iaith, byddwn yn rhoi cymorth priodol ar waith ac yn gwneud cofnod o'ch dewisiadau;
  • Byddwn yn rhoi'r cyfle i chi ofyn am gymorth cyn eich apwyntiad, gan gynnwys gan aelodau'r teulu, gofalwyr neu eiriolwyr (rhywun a all eich cefnogi i siarad neu a fydd yn siarad ar eich rhan);
  • Os oes gennych chi anghenion penodol, fel dementia, byddardod, colli golwg, anableddau dysgu neu anaf i'r ymennydd, bydd eich anghenion cyfathrebu yn cael eu cytuno gyda chi a chymorth yn cael ei drefnu;
  • Byddwn yn rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i chi i ddiwallu eich anghenion unigol ar yr amser cywir;
  • Byddwch yn cael gwasanaeth o’r un safon, beth bynnag fo'ch anghenion iaith neu gyfathrebu.

 

Ffyrdd y gallwch ein helpu

  • Rhoi gwybod i ni cyn eich apwyntiad os oes angen cyfieithydd neu gymorth cyfathrebu arall arnoch;
  • Os nad ydych yn deall yr hyn sy’n cael ei ddweud wrthych, dywedwch wrth ein staff a gofyn iddynt egluro’r wybodaeth mewn ffordd y gallwch ei deall. Os nad ydych yn deall y wybodaeth ysgrifenedig sydd wedi ei rhoi i chi, dywedwch wrthym a byddwn yn ei darparu mewn fformat sy’n diwallu eich anghenion;
  • Rhowch wybod i ni os oes angen i ni drefnu eiriolwr annibynnol i fynychu eich apwyntiad neu i fod yn bresennol i’ch helpu i gyfathrebu’r hyn sydd gennych i’w ddweud.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: