Neidio i'r prif gynnwy

Cadw eich gwybodaeth yn ddiogel ac yn gyfrinachol

Byddwn bob amser yn sicrhau y cedwir eich gwybodaeth yn ddiogel ac yn gyfrinachol.

 

Beth mae hyn yn ei olygu i chi?

  • Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud ag iechyd yn ddiogel ac ond yn ei rhannu â staff sy'n ymwneud â'ch gofal pan fo angen gwneud hynny;
  • Ni fydd eich gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei thrafod gan staff na'i rhannu â sefydliadau eraill heb eich caniatâd. Mewn rhai amgylchiadau, ni fydd angen caniatâd, er enghraifft os oes gofyniad cyfreithiol i staff rannu gwybodaeth er eich budd gorau;
  • Weithiau byddwn yn defnyddio gwybodaeth i'n helpu i wella ein gwasanaethau a diogelwch cleifion, ond bydd unrhyw wybodaeth bersonol/ adnabyddadwy yn cael ei dileu;
  • Gallwch gael mynediad at eich cofnodion iechyd eich hun, trwy clicio yma i ymweld â sgrin mewngofnodi ap GIG Cymru (agor mewn dolen newydd), gan gysylltu â'ch meddyg teulu neu adran cofnodion meddygol yr ysbyty Access.HealthRecords.HDD@wales.nhs.uk

Ffyrdd y gallwch ein helpu

  • Dweud wrthym os byddwch yn newid eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn /rhif ffôn symudol neu gyfeiriad ebost;
  • Rhoi gwybod i ni os oes unrhyw wybodaeth yn eich cofnodion iechyd yn anghywir;
  • Diogelu preifatrwydd unrhyw wybodaeth iechyd bersonol sydd gennych, er enghraifft unrhyw lythyrau a anfonir atoch neu gopïau o unrhyw gofnodion.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: