Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth rheoli pwysau

A ydych yn cael trafferth colli pwysau a'i gadw i ffwrdd? A hoffech gael cymorth i ddarganfod beth allai fod yn ei gwneud yn anodd i chi golli pwysau? Os ydych wedi ateb yn gadarnhaol, yna gallai'r gwasanaeth hwn fod yn addas ar eich cyfer chi.

I atgyfeirio eich hun at ein gwasanaeth bydd angen i chi wybod eich taldra, eich pwysau presennol, a bod â rhestr o unrhyw feddyginiaethau yr ydych yn eu cymryd. Gallwch atgyfeirio eich hun trwy lenwi'r ffurflen hon (agor mewn dolen newydd).

Ar ôl i ni gael eich atgyfeiriad, bydd aelod o'n tîm yn eich ffonio i drafod eich anghenion penodol a chytuno ar eich camau nesaf yn ein gwasanaeth.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: