Ydych chi'n cael trafferth colli pwysau a'i gadw i ffwrdd? Hoffech chi gael cymorth i ddarganfod beth allai fod yn gwneud colli pwysau yn anodd i chi? Os yw'r ateb yn ie, yna gallai ein gwasanaeth fod ar eich cyfer chi.
Mae ein tîm rheoli pwysau i oedolion yn cynnwys:
Mae gan ein tîm hefyd fynediad at feddyg ymgynghorol fel rhan o glinig rheoli pwysau amlddisgyblaethol arbenigol.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cymorth a thriniaeth yn dibynnu ar eich iechyd a'ch hanes pwysau.
Oherwydd y galw mawr iawn am wasanaethau rheoli pwysau i oedolion, rydym ar hyn o bryd yn profi amseroedd aros sy'n llawer hirach nag yr hoffem. Mae'r amseroedd aros presennol rhwng un a thair blynedd yn dibynnu ar lefel yr ymyrraeth y gallai fod ei hangen arnoch.
Isod mae rhagor o ganllawiau, adnoddau a gwybodaeth a allai fod o gymorth i chi.