Os ydych chi eisiau archwiliad iechyd rhywiol ac nad oes gennych chi unrhyw symptomau, pryderon nac arwyddion o haint, gallwch chi archebu pecyn hunan-brofi heintiau a drosglwyddir yn rhywiol am ddim yma (agor mewn dolen newydd).
Os nad oes gennych chi unrhyw symptomau ond nad yw profi ar-lein yn addas i chi, ffoniwch ein llinell apwyntiadau ar 01267 248674 .
Os ydych chi'n poeni y gallai fod gennych chi haint a drosglwyddir yn rhywiol, gall ein clinigau iechyd rhywiol brofi am y rhan fwyaf o heintiau. Mae hyn yn cynnwys clamydia, gonorrhoea, herpes, syffilis, HIV, a hepatitis. Rydym yn cynghori profi ar ôl pob partner newydd.
Os oes gennych symptomau neu os ydych chi'n meddwl eich bod wedi bod mewn cysylltiad â haint, cysylltwch â ni i siarad amdano. Byddwn yn trefnu apwyntiad clinig i chi gael eich gweld gyda'n staff clinigol neu i gasglu meddyginiaeth os yw'n briodol.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am heintiau rhywiol yma:
Mae'n bwysig cael cymorth cyn gynted â phosib os ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi bod mewn cysylltiad â HIV. Efallai y bydd angen proffylacsis ôl-amlygiad yn dilyn amlygiad rhywiol (PEPSE) arnoch chi.
Am ragor o wybodaeth am PEPSE, ewch i'n gwefan yma (agor mewn dolen newydd)
Pan ddewch i'n gweld gyda symptomau, efallai y byddwn yn gwneud profion ychwanegol i chwilio am heintiau eraill y gallwn eu trin. Gall y rhain gynnwys: