Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy'n digwydd mewn clinig?

Os ydych chi'n teimlo'n bryderus am gael archwiliad iechyd rhywiol, peidiwch â phoeni, rydyn ni yma i helpu a gwneud pethau'n haws i'w deall.

Rydyn ni'n gweld llawer o bobl bob wythnos. Mae rhai'n dod i ofyn am atal cenhedlu, mae rhai eisiau cyngor am berthnasoedd iach, ac mae rhai'n poeni y gallai fod arnynt haint. Beth bynnag yw'r rheswm, mae'n iawn gofyn am help.

Mae ein meddygon a'n nyrsys yn gyfeillgar ac wedi'u hyfforddi'n arbennig mewn iechyd rhywiol. Byddant yn gwrando arnoch chi, yn ateb eich cwestiynau, ac yn eich helpu i deimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: