Anffurfio organau cenhedlu benywaidd (FGM) yw pan gaiff organau cenhedlu benywod eu torri, eu hanafu, neu eu newid yn fwriadol. Mae hyn yn cynnwys tynnu neu niweidio meinwe iach.
Nid oes gan FGM unrhyw fuddion iechyd. Gall niweidio merched a menywod mewn sawl ffordd. Gall effeithio ar sut mae eu cyrff yn gweithio.
Mae rhai pobl yn credu bod FGM yn gysylltiedig â chrefydd, ond nid yw hyn yn wir. Mewn rhai diwylliannau, caiff ei weld fel rhywbeth sy'n paratoi merched ar gyfer bod yn oedolion neu briodas.
Mae rhai’n credu y bydd yn lleihau teimladau rhywiol neu’n atal rhyw cyn priodi. Mae eraill yn dweud ei fod yn cael ei wneud i amddiffyn anrhydedd teuluol neu ddilyn traddodiad.