Mae’n bosibl y bydd derbyniad i ofal critigol wedi’i gynllunio ymlaen llaw. Er enghraifft, gallai hyn fod ar gyfer monitro agos yn dilyn llawdriniaeth fawr. Gall hefyd fod heb ei gynllunio, megis yn dilyn damwain, haint difrifol neu ddirywiad yn eich cyflwr ar ein wardiau ysbyty.
Mae ein Tîm Allgymorth Gofal Critigol (CCOT) yn cefnogi staff wardiau i ofalu am gleifion sy'n ddifrifol wael neu'n gwella o salwch critigol. Lle bo'n briodol, maent yn cefnogi derbyniadau amserol i ofal critigol. Mae ymarferwyr CCOT yn uwch nyrsys profiadol iawn gyda sgiliau uwch mewn asesu cleifion a diagnosis.