Mae’r gwasanaeth ar gael i bobl o bob oed, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ym mhob rhan o Gymru er mwyn sicrhau bod y rhai sydd angen cymorth yn gallu cael gafael arno’n gyflym pan fydd ei angen arnynt fwyaf.
Os oes angen i chi siarad â rhywun ar frys am eich iechyd meddwl, neu os ydych yn pryderu am aelod o'r teulu, ffoniwch GIG 111 Cymru a dewiswch opsiwn 2. Byddwch yn cael eich rhoi mewn cysylltiad uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol yn eich ardal.
Mae’r rhif am ddim i’w ffonio o linell dir neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gredyd ar ôl.
Croesawir galwadau yn Gymraeg / calls are welcomed in Welsh.
Darganfod mwy GIG 111 Cymru - Gwyddoniadur : Iechyd Meddwl a Lles (agor mewn dolen newydd)