Gall unrhyw un sydd wedi cael diagnosis o firws a gludir gan y gwaed ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, gan gynnwys partneriaid, teulu a gofalwyr y sawl sydd wedi'u heintio. Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan ymarferwyr meddygol, nyrsys a thimau camddefnyddio sylweddau, neu gall cleifion eu hatgyfeirio eu hunain.
Yr hyn yr ydym yn ei wneud:
- profi ar gyfer hepatitis B, hepatitis C ac HIV
- gofal clinigol ar gyfer unrhyw un sydd wedi cael diagnosis o firws a gludir yn y gwaed
- cymorth emosiynol, seicolegol a chymdeithasol ar gyfer y rhai sydd wedi'u heintio
- trin a monitro cleifion sydd wedi cael diagnosis o hepatitis B ac C
- cysylltu â'r ganolfan ranbarthol ar gyfer cleifion sydd wedi cael diagnosis o HIV
- atgyfeirio at wasanaethau eraill, e.e. seiciatreg, ffisiotherapi, y gwasanaethau cymdeithasol, yn ôl yr angen
- cysylltu â'r gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, y gwasanaethau cymdeithasol, ac ati, er mwyn darparu'r gofal optimwm
- addysg ar gyfer cleifion, gofalwyr ac eraill arwyddocaol
- addysg ar gyfer staff gofal iechyd ac asiantaethau allanol
Gwiriad Iechyd yr Afu Am Ddim
- A allech chi fod wedi cael trallwysiad gwaed cyn 1991?
- Ydych chi erioed wedi chwistrellu/sniffian cyffuriau neu wedi bod gyda rhywun sydd wedi?
- Oes gennych chi datŵ neu’n teithio'n helaeth o amgylch y byd?
- Ydych chi wedi chwistrellu steroidau?
Firysau a gludir yn y gwaed yw hepatitis B a C sy'n lledaenu o berson i berson trwy gysylltiad â gwaed a/neu hylifau corfforol heintiedig.
Nid yw llawer o bobl yn dangos unrhyw symptomau ac felly nid ydynt yn ymwybodol o'u haint. Os na chânt eu trin, gall y firysau hyn arwain at glefyd cronig yr afu.
Beth fydd ar gael:
- Profion ar gyfer y gwaed hep gyda chanlyniadau ar yr un diwrnod
- Sgan yr afu (Fibroscan)
- Mesur pwysedd gwaed
- Cyngor dietegydd
- Cyngor cyfrinachol ar gyffuriau ac alcohol
- Profion a chyngor ar gyfer diabetes
- Ymyriadau byr
- Cefnogaeth a chyngor ar dai
- Hyrwyddo ac addysg iechyd
Nid oes angen apwyntiad
Manylion Cyswllt
Nicola Reeve - Nyrs Glinigol Arbenigol ym Maes Firysau a Gludir gan y Gwaed (Sir Gaerfyrddin)
Rhif Ffôn: 01554 899016
Ebost: nicola.reeve@wales.nhs.uk
Donna Blinston - Nyrs Glinigol Arbenigol ym Maes Firysau a Gludir gan y Gwaed/Nyrs Gyswllt Alcohol (Ceredigion)
Rhif Ffôn: 01970 635614
Ebost: donna.blinston@wales.nhs.uk
Kerry Davies - Nyrs Glinigol Arbenigol ym Maes Firysau a Gludir gan y Gwaed (Sir Benfro)
Rhif Ffôn: 07977332658
Ebost: Kerry.Davies10@wales.nhs.uk