Mae gan ein ffisiotherapyddion iechyd pelfig hyfforddiant arbenigol i asesu a thrin ystod eang o anhwylderau iechyd pelfig, gallai'r rhain gynnwys:
- Anymataliaeth wrinol.
- Anymataliaeth fecal.
- Cwymp organau pelfig.
- Camweithrediad y coluddyn.
- Camweithrediad y bledren.
- Poen wrth gyfathrach rywiol.
- Adferiad ôl-enedigol.
- Adsefydlu llawr y pelfis.