Mae dwy ffordd y gallwch gael mynediad at y gwasanaeth yng Ngheredigion.
Yn gyntaf, gallwch gyfeirio eich hun drwy ffonio Porth Gofal:
Ffôn: 01545 574000
Bydd hwn yn cael ei adolygu gan y rhai sy'n delio â galwadau a'i anfon ymlaen at y gwasanaeth priodol ar gyfer eich angen, gan gynnwys Ffisiotherapi os nodir hynny.
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich atgyfeiriad, bydd uwch aelod o'r tîm wedyn yn penderfynu a yw'r atgyfeiriad yn un brys, neu'n arferol yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd.
Cynhwyswch gymaint o fanylion amdanoch chi'ch hun, yr heriau sy'n eich wynebu a beth yn benodol y teimlwch y gallai Ffisiotherapi eich helpu i'w gyflawni fel bod prosesu eich atgyfeiriad yn symlach.
Yn ail, gallwch gael eich atgyfeirio ar gyfer ffisiotherapi gan feddyg, ymgynghorydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall (e.e. ymarferydd nyrsio, podiatrydd, therapydd galwedigaethol neu ffisiotherapydd arall).
Unwaith y byddwn wedi derbyn atgyfeiriad gan eich meddyg, ymgynghorydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol, bydd uwch aelod o'r tîm wedyn yn penderfynu a yw'r atgyfeiriad yn un brys, neu'n arferol yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd.
Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am a 4.00pm ar y manylion cyswllt canlynol:
Tîm Ffisiotherapi Cymunedol Gogledd Ceredigion: 01970 635960
Tîm Ffisiotherapi Cymunedol De Ceredigion: 01239 801566