Neidio i'r prif gynnwy

Fferyllfa

Gall eich fferyllfa leol gynnig amrywiaeth o wasanaethau GIG ychwanegol, yn ogystal â dosbarthu eich meddyginiaeth bresgripsiwn. Mae fferyllwyr yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol cymwys a all gynnig cyngor arbenigol, triniaeth ar gyfer problemau iechyd bach, ac amrywiaeth o wasanaethau GIG. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi weld eich meddyg teulu. Mae'n ffordd gyflym a hawdd o gael y gofal sydd ei angen arnoch, yn agosach at adref.

Rhowch eich cod post yn y blwch chwilio isod i ddod o hyd i'ch fferyllfa agosaf a gwybodaeth am y gwasanaethau y mae'n eu cynnig.

Oes gennych chi anghenion gofal llygaid brys na fydd yn aros ond NAD ydynt yn argyfyngau 999? Ffoniwch 111 neu ewch ar-lein i Galw Iechyd Cymru (agor mewn dolen newydd) am gyngor a chymorth iechyd. Mae'r rhif yn rhad ac am ddim i'w ffonio, ac mae'r gwasanaeth hwn ar gael 24/7 ac mae'n cynnwys ein gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau.

Os ydych chi'n fyddar neu'n drwm eich clyw ac nad ydych chi'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain neu os oes gennych chi fynediad at gyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar, gallwch chi gysylltu â 111 o hyd. Defnyddiwch Next Generation Text/Text Relay (a elwir yn Type Talk yn y gorffennol) drwy ffonio 18001 111.

Amseroedd agor dros ŵyl y banc Awst

 

Gwasanaethau Fferyllol

Gwasanaethau fferylliaeth ychwanegol

 

 

 

Mae fferyllfeydd cymunedol yn rhan bwysig o'n tîm gofal sylfaenol. Dysgwch fwy am ddarparwyr gofal sylfaenol eraill yma (agor mewn dolen newydd)

Gallwch wylio ein cyfres fideo gofal sylfaenol o'r enw Fy Iechyd, Fy Newis yma (agor mewn dolen newydd). Mae'r rhain yn trafod yr hyn y mae pob gwasanaeth yn ei gynnig a sut allwch chi ofalu amdanoch chi'ch hun mewn fideos byr, hawdd eu deall.

Rolau fferyllol

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: