Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf

Os oes gennych ddolur gwddf, neu os ydych yn meddwl bod gennych donsilitis, bydd fferyllydd hyfforddedig yn asesu eich symptomau. Byddant yn cwblhau asesiad clinigol a lle bo'n briodol, yn swabio'ch gwddf. Gall fod yn addas ymdopi â chyffuriau i ladd poen a chyngor yn unig.

Yn dibynnu ar eich symptomau, efallai y cewch wrthfiotigau neu driniaethau priodol eraill. Efallai y bydd y Fferyllydd yn eich cyfeirio at eich meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, os yw’n meddwl bod gennych gyflwr mwy difrifol.

Nid yw plant dan 6 oed yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth hwn.

I ddod o hyd i fferyllfa yn eich ardal sy'n darparu'r gwasanaeth hwn, ewch i GIG 111 Cymru (agor mewn dolen newydd). Yna dewiswch o'r rhestr ar yr ochr chwith.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: