Mae rhai fferyllfeydd cymunedol yn cynnig gwasanaeth haint y llwybr wrinol (UTI) ar gyfer menywod nad ydynt yn feichiog rhwng 16 a 64 oed.
Os oes gennych symptomau UTI, gallech gael triniaeth briodol. Gall symptomau fod yn boen llosgi wrth basio dŵr, yr angen i basio dŵr yn amlach neu wrin cymylog.
I ddod o hyd i fferyllfa yn eich ardal sy'n darparu'r gwasanaeth hwn, ewch i GIG 111 Cymru (agor mewn dolen newydd). Yna dewiswch o'r rhestr ar yr ochr chwith.