Neidio i'r prif gynnwy

Cyflenwad Meddyginiaeth Brys

Os byddwch yn rhedeg allan o feddyginiaeth ar bresgripsiwn, efallai y byddwch yn gallu cael cyflenwad brys o fferyllfa. Dylech fynd â slip presgripsiwn rheolaidd neu'r pecyn meddyginiaeth gyda chi i'r fferyllfa.

Bydd y fferyllfa yn gofyn a oes angen y feddyginiaeth arnoch ar unwaith a ble rydych fel arfer yn derbyn eich presgripsiwn. Bydd y fferyllydd hefyd yn rhoi gwybod i'ch meddyg teulu bod cyflenwad brys wedi'i wneud.

Efallai na fydd y fferyllydd yn gallu gwneud cyflenwad oherwydd y math o feddyginiaeth sydd ei hangen arnoch a gofynion y gwasanaeth. Os felly, bydd y fferyllydd yn esbonio unrhyw opsiynau eraill sydd ar gael i chi.

I ddod o hyd i fferyllfa yn eich ardal sy'n darparu'r gwasanaeth hwn, ewch i GIG 111 Cymru (agor mewn dolen newydd). Yna dewiswch o'r rhestr ar yr ochr chwith.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: