Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau

Gall fferyllfeydd cymunedol ddarparu brechiadau ffliw GIG am ddim i gleifion 18 oed a hŷn. Rhaid i chi fod mewn grŵp cymwys. Bydd y fferyllfa yn dweud wrthych sut a phryd y gallwch archebu eich brechiad. Mae'r rhain ar gael bob blwyddyn yn ystod yr Hydref a'r Gaeaf.

Ni all plant dan 18 oed gael brechiad ffliw mewn fferyllfa. Efallai y byddan nhw'n gallu cael mynediad iddo o'u hysgol neu feddygfa.

Gall gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio mewn cartrefi gofal neu leoliadau gofal cartref gael brechlyn ffliw GIG gan eich fferyllfa leol. Nid oes angen i chi gyflwyno eich ID mewn fferyllfa. Fodd bynnag, os gall eich cyflogwr roi llythyr i chi yn nodi eich bod yn weithiwr gofal cymdeithasol fe allai hynny wneud pethau'n haws.

Mae’n bosibl y bydd brechiadau Covid hefyd ar gael gan eich Fferyllfa leol. Gwiriwch gyda nhw yn uniongyrchol.

I ddod o hyd i fferyllfa yn eich ardal sy'n darparu'r gwasanaeth hwn, ewch i GIG 111 Cymru (agor mewn dolen newydd). Yna dewiswch o'r rhestr ar yr ochr chwith.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: