Dolur gwddf, haint llwybr wrinol (UTI), neu ewinedd traed sy'n tyfu i mewn? Gellir gweld y rhain a llawer mwy gan wasanaeth anhwylderau cyffredin eich fferyllfa leol.
Os byddwch yn rhedeg allan o feddyginiaeth ar bresgripsiwn, efallai y byddwch yn gallu cael cyflenwad brys o fferyllfa.
Mae atal cenhedlu brys (bilsen bore wedyn) ar gael am ddim i bobl 13 oed a hŷn.
Gall fferyllfeydd cymunedol ddarparu brechiadau ffliw GIG am ddim i gleifion 18 oed a hŷn.
Gall fferyllydd hyfforddedig asesu eich symptomau os oes gennych ddolur gwddf, neu yn meddwl bod gennych donsilitis.
Mae fferyllfeydd cymunedol yn cynnig gwasanaeth haint y llwybr wrinol (UTI) i fenywod nad ydynt yn feichiog rhwng 16 a 64 oed.