Neidio i'r prif gynnwy

Fferyllfa

Cliciwch yma i ymweld â 111 i ddod o hyd i'ch fferyllfa leol a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu (agor mewn dolen newydd)

Gall eich Fferyllfa leol gynnig amrywiaeth o wasanaethau clinigol GIG yn ogystal â dosbarthu eich meddyginiaeth ar bresgripsiwn. Mae ymweld â'ch fferyllfa leol yn ffordd wych o gael cyngor a thriniaethau ar gyfer anhwylderau cyffredin. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi weld eich meddyg teulu.

Cliciwch ar y ddolen uchod i ddarganfod pa fferyllfeydd sy'n cynnig gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cynhelir ymgynghoriadau mewn ystafell breifat. Os bydd y fferyllydd yn penderfynu bod angen i chi weld meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall o hyd, bydd yn eich atgyfeirio.

Gall fferyllfeydd gynnig ffordd gyflym a hyblyg o gael mynediad at ofal iechyd. Mae llawer ar agor gyda'r nos ac ar benwythnosau.

Helpwch eich fferyllfa i'ch helpu, trwy gynllunio ymlaen llaw. Ceisiwch archebu presgripsiynau rheolaidd saith diwrnod cyn bod eu hangen.

Os na allwch gasglu eich presgripsiwn, mae gan lawer o fferyllfeydd wasanaeth dosbarthu ar waith. Mae'r gwasanaeth hwn yn eich helpu i gael gafael ar bresgripsiynau pe bai angen rhywfaint o gymorth arnoch. Cysylltwch â'ch fferyllfa leol am gyngor.

 

Gwasanaethau fferylliaeth ychwanegol

Amseroedd agor gwyl y banc

Rolau fferyllol

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: