Neidio i'r prif gynnwy

Endosgopi

Efallai eich bod wedi cael eich atgyfeirio at y gwasanaeth endosgopi gan eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol oherwydd un o'r rhesymau canlynol.

  • Mae eich meddyg teulu wedi eich atgyfeirio i ymchwilio i symptomau.
  • Rydych chi wedi cael prawf ysgarthion positif gan Sgrinio Coluddion Cymru.
  • Mae angen i ni fonitro cyflwr hirdymor, fel: oesoffagws Barrett, clefyd llid y coluddyn (gan gynnwys clefyd Crohn neu llid briwiol y coluddyn).

Prawf i edrych y tu mewn i'ch corff yw endosgopi. Rydym yn defnyddio tiwb hir, tenau gyda chamera fach ar y pen, o'r enw endosgop.

Caiff ei basio'n ysgafn i'ch corff trwy agoriad naturiol, fel eich ceg.

Gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gofyn am bob prawf endosgopi . Ni allwch gyfeirio'ch hun at y gwasanaeth endosgopi. Mae'r profion yn ein helpu i wirio a yw'ch coluddyn a'ch stumog yn edrych yn iach. Gallant helpu i wneud diagnosis o gyflyrau fel:

  • llid
  • wlserau stumog
  • polypau
  • clefyd Crohn
  • canser

Mae'n bwysig nodi nad oes gan naw o bob deg o bobl sy'n cael gastrosgopi neu golonosgopi ganser.

Os nad ydych chi'n siŵr pam eich bod wedi cael eich gofyn i gael endosgopi:

  • siaradwch â'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a ofynnodd am y prawf, neu
  • cysylltwch â'ch uned endosgopi leol a byddant yn eich helpu.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: