Efallai eich bod wedi cael eich atgyfeirio at y gwasanaeth endosgopi gan eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol oherwydd un o'r rhesymau canlynol.
Prawf i edrych y tu mewn i'ch corff yw endosgopi. Rydym yn defnyddio tiwb hir, tenau gyda chamera fach ar y pen, o'r enw endosgop.
Caiff ei basio'n ysgafn i'ch corff trwy agoriad naturiol, fel eich ceg.
Gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gofyn am bob prawf endosgopi . Ni allwch gyfeirio'ch hun at y gwasanaeth endosgopi. Mae'r profion yn ein helpu i wirio a yw'ch coluddyn a'ch stumog yn edrych yn iach. Gallant helpu i wneud diagnosis o gyflyrau fel:
Mae'n bwysig nodi nad oes gan naw o bob deg o bobl sy'n cael gastrosgopi neu golonosgopi ganser.
Os nad ydych chi'n siŵr pam eich bod wedi cael eich gofyn i gael endosgopi: