Neidio i'r prif gynnwy

Eich helpu i ddod o hyd i swydd

Efallai y gallwn eich helpu gyda gwasanaeth cyflogaeth newydd. Enw’r gwasanaeth cymorth hwn yw “Lleoliad a Chymorth i Unigolion mewn Gofal Sylfaenol” ac mae’n cael ei redeg gan Mind Sir Benfro a Chaerfyrddin, i helpu pobl yn bersonol i ddod o hyd i swydd a’i chynnal.

Gall eich helpu gyda:

  • Magu hyder;
  • Paru swyddi;
  • Meithrin sgiliau;
  • Chwilio am swyddi;
  • Ysgrifennu CV a chais gwych;
  • Paratoi ar gyfer cyfweliad;
  • cymorth yn eich rôl newydd am hyd at 14 wythnos.

I gael help:

  • Rhaid i chi fod yn 16 oed neu'n hŷn.
  • Rhaid bod gennych gyflwr iechyd neu anabledd (gallwch benderfynu beth mae hyn yn ei olygu i chi).
  • Ni ddylai fod gennych swydd ar hyn o bryd.
  • Rhaid bod gennych hawl i fudd-daliadau.

SYLWCH:  Ni fyddwch yn gallu defnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych eisoes mewn rhaglen swydd (gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau).


Ariennir y gwasanaeth “Lleoliad a Chymorth i Unigolion mewn Gofal Sylfaenol” gan Lywodraeth Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau.

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: