Mae iechyd y geg da yn bwysig ar gyfer iechyd a lles. Gall trefn frwsio/glanhau reolaidd helpu i leihau'r risg o broblemau iechyd y geg, poen, anghysur a cholli dannedd.
Negeseuon allweddol ar gyfer cynnal iechyd y geg da:
- Brwsiwch ddannedd ddwywaith y dydd gyda phast dannedd fflworid
- Glanhewch rhwng eich dannedd gyda fflos neu frwsys rhyngddannedd bob dydd
- Glanhewch ddannedd gosod bob dydd gyda chynhyrchion gofal y geg
- Cael archwiliadau deintyddol rheolaidd yn ôl cyngor eich deintydd
- Cael diet cytbwys iach, gan gyfyngu ar gymeriant alcohol a siwgr.