Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol (CDS)

Mae'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol (CDS) yn darparu gofal deintyddol i oedolion a phlant sy'n agored i niwed yn ein tair sir. Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl a all fod yn ei chael hi'n anodd ceisio a derbyn triniaeth ddeintyddol ac mae'n wasanaeth atgyfeirio yn unig.

Mae ein clinigau yn wahanol i bractisau deintyddol y stryd fawr gan ein bod yn gweld cleifion ar sail atgyfeirio yn unig. Mae hyn yn golygu eu bod yn cael eu triniaeth gan yr aelod o'r tîm sydd wedi'i hyfforddi'n fwyaf priodol ac yn y clinig gorau i weddu i'w hanghenion.

Gall cleifion nad oes ganddynt ddeintydd rheolaidd, sy'n dioddef o argyfwng deintyddol, gael apwyntiad ar gyfer triniaeth frys trwy ffonio 111. Byddwch yn siarad â nyrs ddeintyddol gymwys a fydd yn brysbennu'ch symptomau ac yn rhoi cyngor ar reoli poen. Os yw'n briodol bydd y nyrs yn rhoi cod mynediad gwasanaeth i chi a sut i drefnu apwyntiad triniaeth frys.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: