Neidio i'r prif gynnwy

Cyflyrau hirdymor

Os ydych chi wedi cael diagnosis o gyflwr anadlol neu gardiaidd, neu o ddiabetes, ac rydych yn cael anawsterau derbyn y diagnosis, neu nad yw, yn syml, yn llwyddo i reoli eich iechyd o ddydd i ddydd, gallwch gael mynediad i'r gwasanaeth ac elwa ar gefnogaeth seicolegol. Nid ydym yn rhagnodi meddyginiaeth, ond byddwn yn siarad â chi am eich cyflwr ac yn eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o reoli eich anawsterau.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys Seicolegwyr Clinigol a gyflogir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ynghyd â Seicolegwyr Cynorthwyol sy'n gweithio dan oruchwyliaeth y Seicolegwyr Clinigol cofrestredig.

Mae'r amrywiaeth o anawsterau sydd gan y bobl hynny sy'n dod i weld seicolegydd yn cynnwys y canlynol:

  • hwyliau isel;
  • teimladau o anobaith;
  • teimladau o fod wedi'u llethu
  • teimladau o bryder/ofn;
  • teimladau o bryder ynghylch triniaeth feddygol;
  • teimladau o fod yn faich ar eraill;
  • anawsterau cysgu;
  • anhawster ymaddasu i newidiadau mewn bywyd oherwydd problemau iechyd;
  • anhawster o ran hunanreoli'r cyflwr.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: