Byddwch yn cael eich cyfeirio i'r tîm anadlol oherwydd pryderon yr ydych wedi codi ynghylch eich iechyd, er enghraifft colli pwysau, peswch, diffyg anadl, neu ddelwedd pelydr X annormal o'r frest. Felly, mae'ch meddyg teulu, neu gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, wedi gofyn i'r clinigwyr anadlol ymchwilio a darganfod beth sy'n achosi'r symptomau hyn. Mae pawb dan sylw yn rhan o dîm penodedig sy'n ymrwymedig i roi diagnosis a'ch thrin cyn gynted â phosibl.