Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddiadau i'r Clinig Diagnosis Cyflym

Clinig Diagnosis Cyflym (RDC), Uned Brysbennu Brys
Ysbyty Tywysog Philip, Dafen, Bryngwyn Mawr, Llanelli SA14 8QF
Rhif Ffôn : 01269 820328

Ar ôl cyrraedd Ysbyty Tywysog Philip, parciwch yn un o feysydd parcio'r cleifion. Os ydych chi'n cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae'r man gollwng ychydig cyn y gylchfan fach.

Mae'r Clinig Diagnosis Cyflym yng nghefn yr Ysbyty o fewn yr uned brysbennu brys, a leolir mewn caban llwyd wrth ymyl mynedfa'r uned derbyniadau meddygol acíwt.

Os oes angen, gallwch gael eich gollwng yn yr uned brysbennu brys ond peidiwch ag aros yma gan fod ambiwlansys yn defnyddio'r ardal yn aml.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: