Mae ein Tîm Gwasanaethau Chwarae Therapiwtig yn cynnwys Arbenigwyr Chwarae ym Maes Iechyd, sy'n cael eu cefnogi gan Gynorthwywyr Chwarae ar Ward Cilgerran ac yn Uned y Pâl. Ein nod yw defnyddio chwarae, yn ei ffurfiau niferus, i gefnogi a chynorthwyo plant a phobl ifanc yn yr ysbyty. Ein prif ffocws yw defnyddio chwarae i leihau'r pryder y gall plant a phobl ifanc ei deimlo pan fyddant yn yr ysbyty, neu pan fyddant yn cael triniaeth, a hynny trwy ddefnyddio technegau paratoi, tynnu sylw, ac ymdopi sy'n seiliedig ar chwarae.
Mae aelodau o'n Tîm Gwasanaeth Chwarae ar gael bob dydd rhwng 9.00am a 5.00pm, ar y rhifau ffôn a ddarperir isod.