Fel claf byddaf yn:
- teimlo'n ddiogel a bod pobl yn fy neall;
- profi gwell arhosiad yn yr ysbyty gyda phob elfen ohonof fy hun yn derbyn gofal gan gynnwys fy hunan greadigol;
- cael gofal mewn amgylchedd gofal iechyd mwy therapiwtig, iachaol a charedig;
- cael cynnig amrywiaeth o opsiynau anfeddygol/creadigol i hyrwyddo fy iachâd ac adferiad.
Fel aelod o staff byddaf yn:
- cael mwy o ddyddiau da yn y gwaith – gyda gwell llesiant;
- gallu bod yn greadigol yn y gwaith;
- cael gwell amgylchedd gwaith;
- teimlo eich bod yn cael eich clywed a'ch gwerthfawrogi;
- teimlo'n fwy hyderus wrth hyrwyddo manteision y celfyddydau i'm cleifion;
- cael eich ysbrydoli i fyw bywyd mwy gwyrdd a mwy cysylltiedig â natur.
Fel aelod o boblogaeth Hywel Dda byddaf yn:
- cymryd rhan fwy gweithredol yn y celfyddydau;
- gallu rheoli fy iechyd a'm lles fy hun yn well;
- Bod â'r creadigrwydd, y dewrder a'r hyder i gymryd rhan neu adrodd fy stori;
- gwybod bod fy anwyliaid yn cael gofal da.