Neidio i'r prif gynnwy

Ceisiadau cyllido cleifion unigol

Rydym yn ymwybodol nad yw dogfennau sydd wedi'u cynnwys yn y maes hwn yn cydymffurfio â'r Safonau Hygyrchedd Digidol. Os hoffech gael mynediad at fformat arall, ebostiwch hdd.ipfr@wales.nhs.uk. Gallwch ddarllen ein datganiad hygyrchedd digidol yma. Gallwch ddarllen ein datganiad hygyrched digidol yma. 

Bob blwyddyn mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda (BIHD) yn derbyn arian gan Lywodraeth Cymru i dalu am ofal iechyd ar gyfer pawb sy’n byw yng Ngheredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, ac sydd â’r hawl i dderbyn gofal gan y GIG. Ein gwaith ni yw cael y gwerth gorau am arian drwy ei wario’n ddoeth ar eich rhan. 

Mae’r galw am ofal iechyd yn cynyddu.  Mae triniaethau newydd sy’n aml yn ddrud yn dod ar gael bron bob wythnos.  Ein blaenoriaeth yw talu am y triniaethau hynny sydd yn glinigol effeithiol, ac sy’n gallu dangos eu bod yn gwella iechyd pobl ac yn cynnig gwerth da am arian. 

O ganlyniad, mae yna rhai triniaethau nad ydym yn eu darparu fel mater o drefn ac mae’ r rhain yn perthyn i 2 prif gategori:

  • Triniaethau sy’n newydd neu arloesol, triniaethau sy’n cael eu datblygu ond heb eu treialu ac nid ydynt ar gael ar gyfer unrhyw gleifion yn y BIHD fel arfer (er enghraifft,, meddyginiaeth nad yw wedi cael ei gymeradwyo i’w ddefnyddio gan y GIG yng Nghymru);
  • Triniaethau sy’n cael eu darparu gennym ni mewn amgylchiadau clinigol penodol iawn ond nid  yw pob claf sydd â’r cyflwr yn bodloni’r meini prawf  (er enghraifft, cais am driniaeth gwythiennau faricos)

Gall eich Meddyg Teulu neu Ymgynghorydd Ysbyty ofyn i ni, ar eich rhan, i ariannu triniaeth na fyddem fel arfer yn ei darparu.  Gelwir hyn yn gwneud Cais Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) ac mae GIG Cymru yn dilyn polisi ar sut i wneud penderfyniadau ar y ceisiadau hyn.  Gallwch lawr lwytho'r polisi hwn ynghyd â thaflenni sy’n egluro ymhellach, isod:

Dogfennau defnyddiol:

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: