Mae canser yn derm sy'n disgrifio cyflyrau lle mae celloedd yn ein cyrff yn ymddwyn yn annormal. Maent yn arwain at lympiau o'r enw tiwmorau, neu fathau o ganser yn y gwaed fel lewcemia. Mae llawer o wahanol fathau o ganser, ac nid oes yr un canser yn ymddwyn yn union yr un ffordd.
Mae nifer o Dimau Canser gwahanol yn helpu i wneud diagnosis a thrin canser, yn dibynnu ar y symptomau a'r math o ganser yr amheuir ei fod. Gwasanaethau Canser yw’r gwasanaeth ymbarél sy’n gweithio gyda’r timau hyn. Mae hyn er mwyn sicrhau bod canser yn cael ei ddiagnosio’n gyflym a thriniaeth yn dechrau cyn gynted â phosibl.