Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gael cymorth ar ôl ymosodiad rhywiol

Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC)

Efallai y byddwch am ystyried ceisio cymorth meddygol os ydych wedi cael eich treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol yn ddiweddar. Mae cyfleusterau arbenigol a elwir yn Ganolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARCs) ar gael i ddarparu'r cymorth y gallai fod ei angen arnoch. Mae’n bwysig cael mynediad at y cymorth hwn cyn gynted â phosibl, yn enwedig oherwydd y risgiau o feichiogrwydd a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI). 

Am gymorth ar unwaith, ffoniwch linell gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800. Mae rhagor o wybodaeth am eu gwasanaethau i’w gweld ymhellach i lawr y dudalen, isod.

Mewn SARC, cewch gymorth gan Weithiwr Argyfwng a chyfle i weld archwilydd meddygol fforensig. Cewch gymorth hefyd i ddweud wrth yr heddlu beth sydd wedi digwydd i chi, os byddwch chi’n dymuno gwneud hynny. Mae yna gymorth a chyngor arbenigol ar gael hefyd gan eiriolwr sy’n gallu cynnig cymorth ac aros gyda chi gydol y broses.

Gallwch ddarganfod mwy am beth yw SARC a’r cymorth y byddwch yn ei dderbyn yn fideo Gweithrediaeth GIG Cymru isod:

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: