Gall unigolion gael mynediad at y gwasanaeth trwy ffurflen atgyfeirio gan weithiwr proffesiynol neu drwy hunanatgyfeiriad. Gellir eu hanfon i'r gwasanaeth trwy e-bost neu eu postio, neu gellir eu llenwi dros y ffôn gydag aelod o dîm y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig os oes angen.
Daw atgyfeiriadau i law gan ystod eang o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys meddygon teulu, gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau gofal sylfaenol, elusennau neu wasanaethau cymorth.
Cyn cael eu hatgyfeirio, bydd rhai pobl yn defnyddio ein sesiynau galw heibio yn y gymuned leol i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn y gallwn ei gynnig ac am y gwasanaeth. Yna, cynigir copi o'r ffurflen atgyfeirio iddynt os yw hynny'n briodol.
Gohiriwyd y sesiynau galw heibio yn ystod COVID-19 ac felly sefydlwyd gwasanaeth canolfan wybodaeth rithwir lle gallai unigolion ag awtistiaeth, rhieni/gofalwyr, neu weithwyr proffesiynol drefnu apwyntiad i drafod atgyfeiriad posibl a gofyn am ragor o wybodaeth a chymorth.