Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor ar leoliadau gofal plant

Mae'r cyngor a roddwn i leoliadau gofal plant yn seiliedig ar ymchwil a chanllawiau cyfredol.

Dyma rai enghreifftiau:

Mae llawer o leoliadau gofal plant a theuluoedd yn gweld y gwefannau canlynol yn ddefnyddiol:

Cynllun Cychwyn Iach ((Cael help i brynu bwyd a llaeth (Cychwyn Iach) (agor mewn dolen newydd))

Os ydych chi’n fwy na 10 wythnos o feichiogrwydd neu os oes gennych chi blentyn o dan 4 oed, efallai y bydd gennych chi hawl i gael help i brynu bwyd iach a llaeth. Mae teuluoedd hefyd yn derbyn atchwanegiadau fitaminau am ddim trwy'r cynllun.

Corff Iach

Imiwneiddio a Brechlynnau - Iechyd Cyhoeddus Cymru - Mae sicrhau bod eich plant yn cael eu brechiadau atgyfnerthu yn eu hamddiffyn nhw, chi, eich teulu a'r gymuned ehangach.

Mae Cynllun Gwên (agor mewn dolen newydd)  yn rhaglen genedlaethol i wella iechyd y geg ymhlith plant yng Nghymru.

Mae bod yn actif yn bwysig iawn i'n hiechyd a'n lles.

Bwyta’n Iach

Dyma rai awgrymiadau a chanllawiau ar y gwahanol fathau o fwydydd i blant.

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyngor a gwybodaeth am wasanaethau lleol i deuluoedd a gofalwyr.

Magu Plant. Rhowch amser iddo. (agor mewn dolen newydd)

Syniadau ymarferol am ddim a chyngor arbenigol ar gyfer eich holl heriau magu plant gan Lywodraeth Cymru.

Teulu Cymru | LlYW.CYMRU (agor mewn dolen newydd)

Bod yn rhiant yw'r swydd sy'n rhoi'r boddhad mwyaf yn y byd ond weithiau gall fod y swydd anoddaf. Rydyn ni yma i helpu a gobeithio gwneud pethau ychydig yn haws

Iechyd Meddwl

Pum Ffordd at Les Meddyliol (agor mewn dolen newydd)  Pum peth syml y gallwn ni i gyd eu gwneud i roi hwb i’n lles. Gwybodaeth i oedolion, plant a phobl ifanc.

Nod Canolfan Anna Freud ar gyfer Iechyd Meddwl yw creu byd lle mae plant a theuluoedd yn cael eu cefnogi i adeiladu ar eu cryfderau ac i gyflawni eu nodau mewn bywyd. Mae cael iechyd meddwl da yn hanfodol ar gyfer hyn. (agor mewn dolen newydd)

Mae menter Pob Plentyn Cymru yn darparu awgrymiadau a syniadau i helpu pob plentyn i gael dyfodol iach.(agor mewn dolen newydd)

Manylion cyswllt

Cysylltwch â'ch Ymarferydd Cynllun Cyn-ysgol Iach lleol am unrhyw gymorth neu wybodaeth bellach.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: