Neidio i'r prif gynnwy

Plant a phobl ifanc

Mae sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael y cyfle i gael plentyndod iach, hapus nid yn unig yn un o'r camau pwysicaf i sicrhau 'Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach' ond hefyd yn un o'r rhai mwyaf moesegol – mae gennym ddyletswydd i roi cyfleoedd i'n plant a'n pobl ifanc i gyflawni bywyd da ac iach. 

Trwy fuddsoddi yn lles ein plant a'n pobl ifanc heddiw, gallwn sicrhau dyfodol iachach i bawb. 

Mae un o'n mentrau yn y maes hwn yn canolbwyntio ar weithio gyda'n partneriaid ar y rhaglenni isod i sicrhau bod pob ysgol:

  • Yn ysgol hapus 
  • yn gymuned ofalgar sy'n ymwneud ag iechyd ei holl aelodau, disgyblion, athrawon, staff nad ydynt yn addysgu a phawb sy'n rhyngweithio â hi 
  • annog disgyblion i gydnabod bod yr hyn y maent yn ei wneud yn cyfrif – ein bod ni i gyd yn effeithio ar fywydau ein gilydd 
  • cydnabod bod addysg iechyd nid yn unig yn cael ei haddysgu yn yr ystafell ddosbarth, ond yn cael ei chefnogi a’i hatgyfnerthu ym mywyd beunyddiol yr ysgol a’r gymuned leol 
  • darparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar ddisgyblion am amrywiol agweddau iechyd a'u hannog i gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain 
  • Swyddogion ysgol ymroddedig  
  • Cefnogaeth 1-i-1 i ysgolion nodi a chynllunio gweithredu ar gyfer eu blaenoriaethau iechyd a lles 
  • Cyfleoedd hyfforddi a rhwydweithio 
  • Adnoddau 
  • Gwybodaeth ac arweiniad sy'n seiliedig ar dystiolaeth

Rydym yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i fynd i'r afael â dulliau system o iechyd a lles ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, dan arweiniad polisïau cenedlaethol ar gyfer Cymru.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: