Neidio i'r prif gynnwy

Ailgychwyn ein gwasanaethau ysbyty

 Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn estyn allan at bob claf y mae ei lawdriniaethau wedi cael eu gohirio oherwydd pandemig COVID-19 wrth i ni geisio ailgychwyn cymaint o lawdriniaethau a gynlluniwyd â phosibl.

Er na allwn eto roi ateb pendant ynghylch pryd y bydd llawfeddygaeth arferol yn cael ei hailgychwyn, ein nod yw ailgychwyn cymaint ag y gallwn o fewn cyfyngiadau'r pandemig parhaus, gan gydnabod bod tonnau pellach o feirws COVID-19 yn dal yn bosibl. Yr eithriad i hyn yw llawdriniaethau i'r rheini yr ystyrir eu bod glinigol frys a chleifion ar lwybrau canser, yr ydym wedi parhau i'w cynnal trwy gydol y pandemig.

Yn y cyfamser rydym yn cynnig mynediad at ystod o adnoddau ar-lein a ddatblygwyd gan glinigwyr yn Hywel Dda fel y gall cleifion helpu i reoli eu cyflyrau wrth iddynt aros - gellir cael mynediad yma:

Paratoi ar gyfer Triniaeth – Cyngor ar ffordd o fyw - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru).

Isod gwelir cwestiynau cyffredin.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: