Neidio i'r prif gynnwy

ORCHA - Y broses adolygu

ORCHA yw un o’r darparwyr mwyaf blaenllaw ym maes gwerthuso ac adolygu apiau Iechyd a Gofal. Mae’n cynnig asesiad gwrthrychol ac annibynnol o apiau iechyd a meddygol. Gwasanaeth cynghori yw hwn yn hytrach na gwasanaeth rheoleiddio, ond yr ydym yn rhoi gwybod am achosion lle mae materion rheoleiddio’n gallu bod yn bwysig ac y dylid rhoi ystyriaeth bellach iddynt. Fodd bynnag, y datblygwyr a/neu’r cyhoeddwyr yn y diwedd sy’n gyfrifol am sicrhau bod ap yn cydymffurfio â’r holl safonau rheoleiddio perthnasol.

Yr Adolygiad Sylfaenol (ORCHA Baseline Review – ‘OBR’) yw lefel asesu gyntaf ORCHA ac mae’n golygu cynnal dadansoddiad ‘bwrdd gwaith’ o atebion iechyd digidol gan edrych ar yr holl feysydd allweddol o ran rheoleiddio a chydymffurfiaeth. Cynhelir yr OBR yn rhagweithiol gan mwyaf fel rhan o waith parhaus ORCHA i asesu a monitro’r farchnad Iechyd Digidol yn ei chyfanrwydd a byddwn yn adolygu’r apiau a’r atebion cysylltiedig ag iechyd digidol sy’n cael eu lawrlwytho fwyaf a’r rhai a ddiweddarwyd yn fwyaf diweddar ar draws mwy na 250 o gategorïau a chyflyrau iechyd a gofal.

Yn fwy na dim, mae’r OBR yn asesu cydymffurfiaeth apiau â safonau, rheoliadau ac arferion da cyfredol (sydd, gyda’i gilydd, yn ffurfio’r ‘safonau’). [Darllen Rhagor]

Mae’r OBR yn ceisio asesu perfformiad ap trwy ei gydymffurfiaeth â’r safonau hyn. Rydym yn diweddaru ein hadolygiad yn rheolaidd i adlewyrchu newidiadau yn y Safonau hyn. Po uchaf fydd sgôr ORCHA po fwyaf y bydd yr ap yn cydymffurfio â’r safonau hyn ac i’r gwrthwyneb. [Darllen Rhagor].

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: