Awn ati bob wythnos i fonitro’r holl apiau sydd ar gael ar lwyfan iTunes a Google Play gan gadw golwg ar yr apiau newydd sydd wedi cyrraedd y farchnad ynghyd â’r diweddariadau a’r fersiynau newydd o apiau sydd eisoes ar gael.
Pan welir diweddariad neu fersiwn newydd o ap sydd eisoes wedi cael ei adolygu gennym, amlygir yn awtomatig fod yr adolygiad presennol yn ymwneud â fersiwn flaenorol ac anfonir y fersiwn newydd o’r ap yn ôl i’r ciw adolygu i gael ei hailasesu.
Mae’n bwysig dibynnu ar adolygiadau sy’n cyfeirio at y fersiynau cyfredol o apiau yn unig gan fod diweddariadau a fersiynau newydd yn gallu achosi newid sylweddol o ran perfformiad, risgiau a materion eraill.