Nid oes angen i chi gofrestru i gael mynediad i'r llyfrgell, mae'n rhad ac am ddim i bori a defnyddio.
Mae tri math cost allweddol ar gyfer yr apiau:
Hollol Rhad ac Am Ddim - nid oes gan yr ap unrhyw gostau yn gysylltiedig ag ef, naill ai ymlaen llaw neu ar ôl i chi ei lawrlwytho.
Prynu o fewn yr ap - mae'r ap yn hollol rhad ac am ddim i'w lawrlwytho ac mae'n cynnig yr opsiwn i unigolion brynu o fewn yr ap ar ôl ei lawrlwytho. Er enghraifft, gallai hyn fod ar gyfer tanysgrifiad i raglen colli pwysau neu i ddatgloi cynnwys ychwanegol fel fideos ymarfer corff.
Taledig - mae angen taliad ymlaen llaw ar yr ap i'w lawrlwytho. Mae’r pris fel arfer yn cael ei arddangos o dan yr adran ‘Prisio’ wrth edrych ar wybodaeth yr ap.