Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad Anghenion Fferyllol

Rydym am glywed gennych chi ynglŷn â sut rydych chi'n cael mynediad at wasanaethau fferyllol cymunedol ar hyn o bryd. Bydd y wybodaeth a'r mewnwelediadau a ddarparwch yn ein helpu i ddiweddaru ein Hasesiad Anghenion Fferyllol.

Mae ein hasesiad yn edrych ar ble mae fferyllfeydd wedi'u lleoli a pha mor bell y mae'n rhaid i gleifion deithio, pa wasanaethau y mae fferyllfeydd yn eu cynnig yn ogystal â'r gwasanaethau y mae cleifion yn eu cael fwyaf, ac a yw'r gwasanaethau presennol yn diwallu anghenion ein cymunedau.

Mae'r arolwg yn cau ddydd Llun 9 Mawrth 2026. Cwblhewch yr arolwg ar-lein yn www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk, casglwch gopi papur o'ch fferyllfa gymunedol leol neu gofynnwch am gopi drwy e-bostio: communitypharmacy.hdd@wales.nhs.uk neu ffonio 0300 303 8322.

Hasesiad Anghenion Fferyllol

Paratowyd PNA BIP Hywel Dda yn dilyn ymgynghori â chyrff statudol a’r cyhoedd. Mae’r ddogfen yn nodi ble mae fferyllfeydd wedi’u leoli a pha mor bell y mae’n rhaid i gleifion deithio, pa wasanaethau y mae fferyllfeydd yn eu cynnig ac a yw’r gwasanaethau cyfredol yn diwallu anghenion y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Bydd y ddogfen hon yn cefnogi’r bwrdd iechyd i wneud penderfyniadau i ddatblygu a gwella gwasanaethau fferyllol yn y dyfodol. 

Dadlwythwch gopi o’r Asesiad Anghenion Fferyllol yma (agor mewn dolen newydd)

Datganiad atodol

Cyhoeddwyd 18 Mawrth 2025 - Datganiad atodol i Asesiad Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Cyhoeddir y datganiad atodol hwn o dan Reoliad 6 o Reoliadau'r GIG (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020.
Cyhoeddwyd Asesiad Anghenion Fferyllol (PNA) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyntaf ar 1 Hydref 2021.
Mae'r llythyr hwn yn hysbysiad o ddatganiad atodol sy'n cael ei gyhoeddi (dyddiedig yn unol â'r llythyr).

Yn dilyn penderfyniad y Bartneriaeth, mae'r Practis Meddyg Teulu canlynol wedi'i dynnu oddi ar restr meddygon dosbarthu'r Bwrdd Iechyd o 1 Ebrill 2025: 

  • Canolfan Feddygol Saundersfoot, Heol Westfield, Saundersfoot SA69 9JW

Roedd gan y meddyg dosbarthu ganiatâd amlinellol i ddosbarthu i'r ardaloedd canlynol: 

  • Saundersfoot ac ardaloedd cyfagos

Cymeradwywyd y datganiad atodol hwn gan Grŵp Adolygu Cyswllt Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 18 Mawrth 2025.

Jill Paterson - Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor


Cyhoeddwyd 12 Chwefror 2022 - Datganiad Atodol Asesiad Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Cyhoeddir y datganiad atodol hwn o dan Reoliad 6 o Reoliadau'r GIG (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020. 
Cyhoeddwyd Asesiad Anghenion Fferyllol (PNA) Bwrdd lechyd Prifysgol Hywel Dda am y tro cyntaf ar 1 Hydref 2021. 
Mae'r llythyr hwn yn hysbysiad bod datganiad atodol yn cael ei gyhoeddi (dyddiedig yn unol a'r llythyr). 
Mae'r Fferyllfa ganlynol wedi cau: 

  • Superdrug Stores PLC, d/a Fferyllfa Superdrug, (y tu mewn i Savers), 6 Stryd Vaughan, Llanelli SA15 3TY

Darparodd y Fferyllfa y gwasanaethau Fferyllol Clinigol ac Ychwanegol isod; 

  • Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Glinigol
    • Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin
    • Alai Cenhedlu Brys
    • Alai Cenhedlu Pontio
    • Brechiadau ffliw
    • Cyflenwi Meddyginiaethau Brys
  • UTI
  • Rhoi'r Gorau i Y smygu Lefel 2 a 3
  • Rhoi Meddyginiaeth dan Oruchwyliaeth
  • Boes Wrth Gefn
  • Dychwelyd offer miniog cleifion
  • Adolygiad o Feddyginiaethau Rhyddhau

Darparwyd y gwasanaethau hyn rhwng 9am a 5:30pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. 
Caeodd y Fferyllfa ar 2 Rhagfyr 2023. 
Cymeradwywyd y datganiad atodol hwn gan Grwp Adolygu Cyswllt Gofal Sylfaenol Bwrdd lechyd Prifysgol Hywel Dda. 

Jill Paterson - Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor


Cyhoeddwyd 12 Mehefin 2023 - Datganiad Atodol Asesiad Anghenion Fferyllol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Cyhoeddir y datganiad atodol hwn o dan Reoliad 6 o Reoliadau’r GIG (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020.

Cyhoeddwyd Asesiad Anghenion Fferyllol (PNA) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am y tro cyntaf ar 1 Hydref 2021.

Mae'r llythyr hwn yn hysbysiad bod datganiad atodol yn cael ei gyhoeddi (dyddiedig yn unol â'r llythyr). Yn dilyn ymddeoliad Dr Sujan Dhaduvai ar 31 Mawrth 2023, mae’r Practis Meddyg Teulu a enwir isod wedi’i dynnu oddi ar restr meddygon fferyllol y Bwrdd Iechyd:

  • Meddygfa Solfach, Cysgod Yr Eglwys, Stryd Fawr, Solfach, Hwlffordd, SA62 6TW

Roedd gan y meddyg sy'n dosbarthu ganiatâd amlinellol i ddosbarthu i'r meysydd canlynol:

  • Solfach a'r ardaloedd cyfagos Cymeradwywyd y datganiad atodol hwn gan Grŵp Adolygu Cyswllt Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Jill Paterson - Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: